--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.362 / Virus Database: 267.13.4/176 - Release Date:
20/11/2005
21st Nov 2005, 22:50
comments (0)
21st Nov 2005, 22:50
comments (0)
21st Nov 2005, 22:37
comments (0)
Rysait:
Dau bwys o gellyg
200g o siwgr
1/4 peint o ddwr
1/4 peint o win coch
Rhowch y dwr a'r siwgr mewn sospan a'i ferwi am 3 munud nes bod y siwgr wedi toddi i greu syrup. Pliciwch y gellyg, gan adael y coesau, a'u rhoi'n gyfan fel eu bod yn ffitio'n daclus mewn i waelod sospan (gwnewch yn siwr eu bod yn reit dynn mewn ond nid ar ben eu gilydd). Rhowch y gwin coch mewn. Dylai gyrraedd bron hyd at dop yr ellygen, ond ddim cweit. Dowch a fo i'r berw eto, trowch y gwres lawr, rhowch gaead tynn arno a simrwch yn ysgafn am hanner awr ac awr. Checkiwch bob yn hyn a hyn i weld os mae'n nhw wedi mynd yn feddal.
Nath rai fi gymryd awr a hannar ond oeddan nhw fel creigia.
Joiwch nhw gyda hufen neu hufen ia. Mmm!
Sawl tatan, rwdan bach, dau foronyn, dwy genhinen, dau nionyn, llond dwrn o gig eidion stiwio, teim, bag te o berlysiau, ambell i lwy de o bouillon.
Iym iym. Maeth.
Lobsgows a Gellyg Mewn Gwin Coch. Digon ohonynt i'w rhewi.
Daeth y gellyg i gyd o'r ardd. Mae gen i dal tua 30 ar ol.
Lawr rhyw stryd gefn rhwng y Stryd Fawr a'r Hen Goleg.
Mae yno hanes ar y plac bach ond wnes i ddim ei ysgrifennu i lawr. Af yn ol yno.
Sdim byd yn digwydd yno dwi'm yn meddwl.
[Gol: Mae'r plac yn dweud:
"Yma Addolodd
DAVID IVON JONES
1883-1924
Ffigwr allweddol yn hanes hawliau sifil a'r ANC yn De Affrica [sic]"
Rhagor o hanes y boi.